Cylch Cadwgan
Sefydlwyd Cylch Cadwgan yn 2001 i drefnu cyfarfodydd diwylliannol ar gyfer Cymry’r fro yn ystod misoedd y gaeaf a’r gwanwyn.
Mae’r enw a fabwysiadwyd gan y gymdeithas yn ein tywys yn ôl i’r ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ar ddeg. Yn ôl yr hanes, dyna pryd yr enillodd Cadwgan Fawr neu ‘Gadwgan Lly hog y Fwyell’ frwydr yn erbyn y Normaniaid rhwng y Creigiau a Phen-tyrch.
Yn ogystal â defnyddio’r fwyell i ymladd, mynnai Cadwgan warchod hen draddodiadau a hawliau’r werin bobl. Yn ôl coel gwlad felly, bu gan Gadwgan ran bwysig yn sicrhau parhad y Gymraeg a’i thraddodiadau yn yr ardal hon.
Dim ond un o’r sefydliadau sy’n trefnu’r Cylch yw Bethlehem. Y pedwar arall yw Clwb y Dwrlyn ym Mhen-tyrch, Cymdeithas Gymraeg Llantrisant, cangen y Garth o Ferched y Wawr, ac eglwys y Tabernacl yn yr Efailisaf.
Fel yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Cylch Cadwgan yn symudol ac yn ymweld â gwahanol fannau yn y dalgylch.
Ac fel yr Eisteddfod, mae'r Cylch yn denu siaradwyr o fri: dros y blynyddoedd cafwyd cwmni lliaws o lenorion a beirdd yn trafod eu meysydd gwahanol.
Mae cefnogaeth frwd i’r gweithgareddau a chynulleidfaoedd niferus yn gwledda ar y cynnwys.
Cyfarfod nesaf
7:30yh Nos Iau 10 Mawrth 2022
'Delweddau o Cynan' gyda'r Athro Gerwyn Williams
Cyfarfod rhithiol fydd hwn.
Manylion Zoom:
https://us02web.zoom.us/j/ 85859620283?pwd= cUZ2VU9ZTG92THp2S09lbGlnZG1sdz 09
Rhif Adnabod: 858 5962 0283
Cyfrinair: 081634
Trefnir gan Gymdeithas Gymraeg Llantrisant