Drws Agored

Agorwyd drws “Cymdeithas Drws Agored” yn y Festri ym Methlehem am y tro cyntaf yn Hydref 2009.

Cylch trafod achlysurol, i gwrdd am ryw awr gyda'r nos (ar nos Iau fel arfer), yw’r Gymdeithas gyda gwahoddiad agored i bobl ‘alw i mewn’, heb unrhyw ddisgwyliad i fynychu bob tro.

Mae croeso i bawb i’r cylch trafod a chynhelir nifer o sesiynau yn ystod y flwyddyn.

Yn ystod y blynyddoedd ers hynny mae nifer o bynciau wedi eu trafod megis:

  • Llyfr y Parchedig Vivian Jones Menter Ffydd
  • Trafodaeth gan Dr Emyr McDonald ar y dadleuon yn erbyn Dawkins a dadleuon Dawkins yn erbyn ffydd
  • Cyfrol o farddoniaeth ddiweddaraf Aled Jones Williams, Y Cylchoedd Perffaith
  • Wynford Ellis Owen ar y cerddi sy’n ymwneud ag alcoholiaeth
  • Ian Hughes ar Aled y Dramodydd a'r ddrama ‘Iesu’
  • Dehongli'r Damhegion (Elfed ap Nefydd Roberts) gan fwrw golwg ar nifer o ddamhegion ar y tro
  • Cerddi Waldo Williams
  • Yn fwy diweddar bu'r cylch yn edrych ar Grefyddau a chredoau gwahanol. Bu Ali Yassine yn trafod Islam

  • a'r Tad Deiniol yn trafod agweddau ar yr Eglwys Uniongred

Yn ystod mis Tachwedd ac eto ym mis Ionawr bu'r grwp yn trafod cynllun "Y Ffordd" Undeb yr Annibynwyr.

 

Daeth Caeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd 2018 Ashok Ahir i drafod Siciaeth ym mis Chwefror

Nôl