Cwrdd y Merched
Bydd merched Bethlehem yn cyfarfod unwaith y mis ar yr ail ddydd Mawrth am ddau o’r gloch. Cyfle am baned ac i ehangu’n gwybodaeth drwy wrando ar siaradwyr amrywiol yn rhannu profiadau.
Ambell waith byddwn yn gwahodd y dynion i ymuno â ni – yn ‘ferched er anrhydedd’ – a braf yw cael eu cwmni.
Prynhawn o Frethyn Cartre’ fydd hi weithiau, pan fydd yr aelodau’n sôn am eu cefndir neu yn rhannu o’u sgiliau personol. Mae cymaint o dalent yn ein heglwys fel nad oes prinder cyfranwyr. Mae rhai o’n cyd-aelodau wedi sôn wrthym am waith llaw crefftus, coginio blasus, creiriau o’u cartrefi, teithiau tramor diddorol, a’u gyrfaoedd gwahanol.
Mae siaradwyr gwadd y gorffennol yn cynnwys Havard Gregory, a soniodd am ei blentyndod yng Ngwaelod-y-garth; y Parch. Owain Llŷr Evans, a ddadansoddodd rai o luniau’r meistri; y Parch. Cynwil Williams, a ddywedodd wrthym am ei adnabyddiaeth o’r Archesgob Rowan Williams; yr Athro Glyn O. Phillips, a’n dysgodd am drawsblannu meinwe ddynol; yr Athro Peter Wynn Thomas, a drafododd enwau trefi a phentrefi Gwent; a Mary Wiliam, a’n cyfareddodd gyda chynnwys ei llyfr Creiriau’r Cartref.
O bryd i’w gilydd byddwn yn ymweld â’r theatr ar gyfer perfformiad arbennig. Felly, mae rhywbeth at ddant pawb.
Byddwn yn cloi pob tymor gyda gwibdaith. Dyma gyfle i ymweld â rhai o’r llu llefydd o bwys hanesyddol sydd ar y trothwy. A chyfuno hynny ag ychydig o siopa a phryd o fwyd heb yr ymdrech o’i baratoi!
Aeth y merched (ac un neu ddau arall) i Bantycelyn yn 2017
Dyma'r teithwyr llon ar diwedd y daith i Abertawe yn ystod yr Haf 2016
Tecstiliau Creadigol Sandra Rose
Taith i Drefeca