Cymorth i Eraill
Yn ogystal â chyfrannu o bryd i’w gilydd at elusennau fel Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, Cymorth Cristnogol a Chymdeithas y Beibl, mae Bethlehem yn cyfrannu’n gyson at elusennau yn cynnwys Banc Bwyd Caerdydd
Ein elusen am 2023-24 yw Cymdeithas Alzheimer Cymru.
Mae nifer hefyd yn dal i gefnogi Bangla Cymru, ein elusen yn ystod 2008-2009, drwy gyfrannu ati’n fisol.
Byddwn yn helpu i baratoi te i’r difreintiedig yng nghapel y Tabernacl, yr Aes bob rhyw dri mis.
Os bydd argyfwng mewn unrhyw ran o'r byd mae Bethlehem o hyd ar y blaen yn cyfrannu at unrhyw gronfa elusenol i helpu.